#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-750

Teitl y ddeiseb: Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno system dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a’r offer sy’n gysylltiedig â hwy

Testun y ddeiseb:

Mae'r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i weithredu er mwyn i Gymru gyfrannu’n gadarnhaol at y nod byd-eang yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac i adeiladu ar y canlyniadau rhagorol a gafwyd drwy godi tâl am fagiau plastig , drwy weithredu dau gam arall a fyddai'n helpu Cymru i gyrraedd economi ddiwastraff, gylchol. Hynny yw:

* Cyflwyno system dychwelyd ernes yng Nghymru ar gyfer pob cynhwysydd diod untro, fel poteli gwydr a phlastig a chaniau alwminiwm. 

* Deddfu er mwyn codi tâl am yr holl gynwysyddion bwyd a diodydd cyflym a’r offer sy’n gysylltiedig â hwy nad oes modd eu compostio’n llawn, oni bai ei bod yn bosibl eu hailddefnyddio, eu hail-lenwi, eu cynnwys mewn cynllun dychwelyd neu eu casglu i’w hailgylchu mewn siopau. 

Mae systemau dychwelyd ernes eisoes ar waith mewn mwy na 40 o wledydd ledled y byd a phrofwyd bod y rhain yn lleihau sbwriel, yn cynyddu cyfraddau ailgylchu drwy greu cyflenwad mwy dibynadwy o ddeunyddiau o ansawdd da, yn lleihau costau ar gyfer awdurdodau lleol ac yn creu swyddi.

Mae papurau lapio bwyd cyflym a chwpanau untro yn eitemau sbwriel cyffredin ar ein strydoedd a bydd sicrhau bod modd eu hail-lenwi / eu hailddefnyddio, a’i bod yn hawdd eu hailgylchu neu eu compostio, yn lleihau sbwriel.

Mae’r gwaith o gynhyrchu cynwysyddion diodydd newydd yn ogystal â chynwysyddion bwyd cyflym a chwpanau newydd yn defnyddio llawer iawn o ynni, sy'n cyfrannu at allyriadau nwyon tŷ gwydr. Po fwyaf yr ydym yn ailgylchu, a pho leiaf o ysbwriel yr ydym yn ei ollwng, gorau oll ar gyfer ein hamgylchedd a'n heconomi.

 

Cefndir

Mae polisi gwastraff (gan gynnwys ailgylchu) yn fater datganoledig. Fel y cyfryw, mae polisïau Llywodraeth y DU yn berthnasol i Loegr yn unig a chyfrifoldeb y gweinyddiaethau datganoledig yw datblygu a gweithredu eu polisïau a'u dulliau eu hunain, o fewn fframwaith gofynion yr UE. Mae strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff (2010) Llywodraeth Cymru yn nodi ei pholisi yn y maes hwn.

System dychwelyd ernes / system ad-dalu ernes (DRS)

A deposit-refund system is the surcharge on the price of potentially polluting Products. When pollution is avoided by returning the products or their residuals, a refund of the surcharge is granted. (OECD, Glossary of Statistical Terms)

Diben system o’r fath yw annog pobl i ddychwelyd deunyddiau i broses drefnus o ailddefnyddio, ailgylchu neu drin / gwaredu. Egwyddor sylfaenol systemau ernes ar ddeunydd pacio diodydd yw bod manwerthwyr, wrth brynu diod, yn talu ffi ychwanegol am y deunydd pacio, ar ffurf ernes. Y deunydd pacio a maint y cynhwysydd sy’n penderfynu’r ffi, yn gyffredinol, a chaiff ei nodi ar label ar y pecyn. Wrth brynu diod yn y siop, bydd y cwsmer yn talu'r ffi ychwanegol i’r manwerthwr a bydd y ffi wedyn yn cael ei had-dalu pan fydd y cwsmer yn dychwelyd y pecyn gwag. Cynwysyddion diodydd yw targed mwyaf cyffredin systemau dychwelyd ernes ond cafwyd awgrymiadau y gellid rhoi’r cynllun ar waith yn ehangach, er enghraifft i fatris a theiars.

Bu diddordeb o’r newydd yn y defnydd o systemau ernes yn ddiweddar ynghyd â defnyddio peiriannau gwerthu o chwith fel dull o gasglu cynwysyddion diodydd. Nid oes dim cynlluniau dychwelyd ernes ar waith yn y DU ar hyn o bryd. Awgrymodd gwaith ymchwil a gynhaliwyd ar gyfer y Campaign to Protect Rural England (CPRE) y bydd y cynllun ernes yn arbed arian i'r defnyddiwr yn y tymor hir, ac y byddai ernes o 15c am gynwysyddion llai na 500ml a 30c am y rhai mwy o faint yn creu cyfraddau dychwelyd o tua 90%.

Amlinellodd yr adroddiad a baratowyd gan Eunomia yn 2010 ar gyfer CPRE nifer o fanteision posibl system dychwelyd ernes:

§    Cynyddu cyfradd ailgylchu cynwysyddion y talwyd ernes amdanynt (i’w hail-lenwi neu eu hailgylchu);

§    Sicrhau bod llai o sbwriel (gan y bydd pobl yn llai tebygol o daflu eitemau sy'n werth arian);

§    Cynyddu'r defnydd o gynwysyddion y gellir eu hail-lenwi / / lleihau’r dirywiad yn y defnydd o gynwysyddion o’r fath; ac

§    Atal cemegau niweidiol rhag crynhoi yn yr amgylchedd (er nad mewn cynlluniau sy’n ymwneud â diodydd e.e. batris neu blaladdwyr).

Daeth yr adroddiad i’r casgliad:

The combined overall cost benefit analysis indicated that, even with the additional costs incurred in the running of the DRS, there is a high likelihood of a significant net benefit to Society. The influence of the reduction in dis-amenity associated with litter appears to be particularly strong.

Comisiynodd Defra adroddiad ar gynlluniau ernes (PDF 1.44mb) yn 2008, ac roedd ei ganfyddiadau’n awgrymu y byddai system ernes yn drafferthus. Daeth yr adroddiad hefyd i'r casgliad y byddai system ernes yn cynyddu cyfanswm y tunelli o ddeunyddiau a gesglir, er y byddai cyfran sylweddol o'r deunydd pacio y talwyd ernes arno yn dod yn uniongyrchol o gynlluniau casglu presennol. Awgrymwyd yn yr adroddiad hefyd y byddai cyflwyno ernesau yn cael effaith andwyol ar ddulliau casglu presennol yn gyffredinol, a chasgliadau ymyl y ffordd gan gynghorau yn arbennig.

Mae beirniaid systemau o’r fath hefyd yn mynegi pryderon difrifol am lefel y seilwaith y dywedant y bydd ei angen pe byddai cynlluniau o'r fath yn mynd rhagddynt. Mae'r adroddiad gan Defra yn amlinellu rhai o'r amodau y byddai’n rhaid eu bodloni cyn gallu sefydlu system dychwelyd ernes; bydd angen i gynhyrchwyr a mewnforwyr fod wedi cofrestru a labelu eu cynnyrch, bydd angen i fanwerthwyr fod â system gasglu ar waith, bydd yn rhaid i gludwyr ac ailbroseswyr fod yn barod i dderbyn y deunydd pacio a ddychwelwyd drwy'r sianeli newydd, a rhaid rhoi gwybod i ddefnyddwyr am y systemau newydd. Gellid ystyried bod system dychwelyd ernes yn arwain at gost ychwanegol i bobl nad ydynt yn gallu cymryd rhan yn hawdd, e.e. drwy ddychwelyd cynwysyddion i gasglu ernesau.

Mae Deddf Newid yn yr Hinsawdd (yr Alban) 2009 yn cynnwys pwerau i gyflwyno cynlluniau ernes a dychwelyd. Ym mis Mai 2014, cyhoeddodd Zero Waste Scotland adroddiad ar System Dychwelyd Ernes yn yr Alban. Roedd yr adroddiad yn asesu nodweddion cynllunio allweddol system o’r fath, a pha mor ymarferol fyddai ei sefydlu yn yr Alban. Yn fwy diweddar, mae Coca-Cola wedi cefnogi ymgyrch am system dychwelyd ernes ar gyfer caniau a photeli yn yr Alban.

 

Deunydd pacio bwyd y gellir ei gompostio

Polystyren wedi’i ehangu (EPS) yw un o'r deunyddiau mwyaf trafferthus na ellir ei ailgylchu. Mae'n cael ei ddefnyddio yn y marchnadoedd pacio bwyd ar gyfer prydau bwyd a diodydd poeth. Mae'n eithriadol o ysgafn ac mae’n ynysydd da, felly mae’n effeithiol i gadw bwyd yn gynnes. Er bod rhai diwydiannau wedi gwneud ymdrech i hyrwyddo’r arfer o ailgylchu polystyren, ni phrofwyd unrhyw ddull cyffredin ar draws y diwydiant o fewn y sector bwyd cyflym. Mae rhai o'r cadwyni bwyd cyflym mwyaf wedi cymryd camau i gyfnewid EPS am ddewisiadau eraill bioddiraddadwy, ond mae busnesau bwyd cyflym annibynnol llai yn dal i ddefnyddio deunydd pacio EPS yn rheolaidd oherwydd bod ei gost fesul uned is.

Yng Nghymru, mae tystiolaeth yn awgrymu bod sbwriel EPS yn broblem sylweddol, yn enwedig ar yr arfordir. Mewn adroddiad yn 2008, canfu Cadwch Gymru'n Daclus wastraff bwyd cyflym ar gyfartaledd o 17.2 y cant o strydoedd Cymru. Mae hyn yn cynnwys EPS yn ogystal â phapur, cardfwrdd a gwastraff bwyd ei hun. Mewn ardaloedd arfordirol, gwastraff polystyren yw'r trydydd math mwyaf cyffredin o sbwriel a geir ar draethau yn y DU yn ôl Arolwg Beachwatch 2013 y Gymdeithas Cadwraeth Forol. Roedd Papur Polisi Sbwriel Morol Cadwch Gymru'n Daclus yn 2011 yn amcangyfrif mai £18 miliwn yw cost casglu sbwriel ar y traethau, a bod y gost honno wedi cynyddu 37.4 y cant dros y 10 mlynedd diwethaf. Er nad yw hyn oherwydd gwastraff polystyren yn unig, mae'n elfen fawr o'r broblem. Ar wahân i’r arfordir, mae'n costio tua £40 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr gadw strydoedd Cymru'n lân, yn ôl Papur Polisi Sbwriel Bwyd Cyflym (2008) Cadwch Gymru'n Daclus. 

Mae plastigau bioddiraddiadwy (neu biopolymerau) wedi cael eu defnyddio ers peth amser. Mae biopolymerau wedi’u cynllunio yn gyffredinol i gael eu compostio yn hytrach na’u hailgylchu, ac fel y cyfryw, mae angen dull casglu / gwaredu gwahanol i blastig confensiynol ar eu cyfer. Mae biopolymerau yn costio mwy na phlastig confensiynol (a wneir fel arfer o ddeilliadau olew crai) ac fel y cyfryw maent yn llai cyffredin yn y farchnad.

Cyn dadl gan Bwyllgor Deisebau San Steffan ym mis Ionawr 2017, cynhyrchodd Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin becyn ar gyfer y ddadl i’r Aelodau. Mae'r papur briffio manwl hwn yn disgrifio’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer deunydd pacio bwyd a chyfrifoldeb y cynhyrchydd, gan gynnwys Cyfarwyddebau perthnasol yr UE. Yn dilyn y ddadl, gwrthodwyd unrhyw waharddiad ar becynnau na ellir eu hailgylchu ac ailadroddodd Gweinidog Adnoddau Llywodraeth y DU mai gweithredu ar sail wirfoddol yw dewis y llywodraeth. Awgrymodd ymateb Llywodraeth y DU mai cyfrifoldeb busnesau a chwsmeriaid yw penderfynu pa ddeunyddiau pacio sy’n cael eu cyflenwi a'u prynu, yn hytrach na bod y llywodraeth yn gorfodi’r defnydd o ddeunyddiau penodol.

 

Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru

Yn ei llythyr at y Pwyllgor, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn nodi bod y problemau sy'n ymwneud â deunydd pacio bwyd a diod untro a deunydd y gellir ei gompostio yn niferus ac yn gymhleth. Mae hi'n awgrymu bod angen edrych ar y problemau yn eu cyfanrwydd er mwyn cael ateb tymor hir. Dywedodd ei bod yn bwriadu gwneud hyn fel rhan o’r broses o werthuso ac adnewyddu strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff 2010 Llywodraeth Cymru. Mae'r gwerthusiad eisoes wedi cael ei wneud, ac mae hi'n dweud y bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi yn ystod haf 2017, gyda'r ymgynghoriad ar y strategaeth newydd wedi’i gynllunio ar gyfer haf 2018.

Roedd nifer o gynlluniau sector yn cydfynd â’r strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff wreiddiol. Un o'r rhain oedd y Cynllun Gwastraff Diwydiannol a Masnachol. Er nad yw’n sôn yn benodol am gynlluniau dychwelyd ernes, nod y cynllun yw sicrhau bod cynhyrchion, gan gynnwys deunydd pacio bwyd a diod, yn defnyddio llai o adnoddau, yn fwy gwydn a / neu ag oes hwy. Mae hefyd yn amlinellu y dylai cynhyrchion greu llai o wastraff ar ddiwedd eu hoes, y dylent fod yn ailgylchadwy, ac y dylai mwy o’u cynnwys fod yn ddeunydd wedi'i ailgylchu. Mae'r cynllun hefyd yn tynnu sylw at gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr (EPR, neu ‘extended producer responsibility’) - y dylai'r cynhyrchydd gymryd mwy o gyfrifoldeb am reoli’r cynnyrch ar ddiwedd ei oes, gan gynnwys costau rheoli diwedd oes. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn awgrymu bod y cynhyrchion posibl y gellid eu hystyried ar gyfer dull gweithredu hwn yn cynnwys deunydd pacio tafladwy sy’n gysylltiedig â bwyd a diod, gan gynnwys cyllyll a ffyrc plastig.

 

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ar 14 Mawrth 2017, mewn ymateb i ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar ailgylchu, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig y byddai system dychwelyd ernes yn cael ei hystyried fel rhan o’r gwaith o adnewyddu’r polisi Tuag at Ddyfodol Diwastraff.

Ar 5 Ebrill 2017, arweiniodd Simon Thomas AC ddadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod ar Fil Lleihau Gwastraff ar gyfer Cymru. Roedd y cynnig yn galw am system dychwelyd ernes ar gyfer plastig, caniau, poteli a gwydr, a gwaharddiad neu ardoll ar ddeunydd pacio polystyren (na ellir ei ailgylchu). Trafododd y ddadl nifer o faterion yn ymwneud â’r systemau hyn a deunydd pacio na ellir ei ailgylchu, ac mae nifer ohonynt yn cael eu crynhoi isod:

·         Mae pwerau newydd yn Neddf Cymru i gyflwyno trethi arloesol, er enghraifft treth / ardoll ar ddeunydd pacio polystyren, y gellid ei hymestyn i bob plastig na ellir ei ailgylchu;

·         Mae system dychwelyd ernes yn cyd-fynd â'r symudiad tuag at economi gylchol;

·         Awgrym y dylem fod yn symud tuag at sefyllfa lle gellir ailgylchu’r holl ddeunydd pacio yng Nghymru;

·         Nid oes fawr o gymhelliant i fanwerthwyr ddefnyddio deunydd pacio mwy cynaliadwy pan mae polystyren yn llawer llai costus;

·         Yr angen i annog newid mewn ymddygiad ymysg dinasyddion, a gwella addysg ynglŷn â’r hyn y gellir ei ailgylchu a’r hyn na ellir ei ailgylchu;

·         Yr angen i feddwl yn ofalus am ganlyniadau anfwriadol posibl cynllun dychwelyd ernes, fel pobl yn gwneud teithiau ychwanegol yn y car i ddychwelyd poteli ac ati; a

·         Chydnabod bod Cymru ar hyn o bryd yn arwain y ffordd yn y DU o ran lefelau ailgylchu, ac ystyried yr effeithiau posibl y gallai system dychwelyd ernes eu cael ar hyn. Hefyd, sut y gallai effeithio ar drefniadau casglu gwastraff presennol awdurdodau lleol.

Cafodd y cynnig gefnogaeth drawsbleidiol, a phasiwyd y cynnig gyda 34 o blaid, dim yn erbyn a 12 yn ymatal.

Ystyriodd y Pwyllgor Deisebau ddeiseb flaenorol ar wahardd deunydd pacio polystyren rhwng 2014 a 2016. Yn dilyn yr ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet, cytunodd y Pwyllgor nad oedd fawr mwy y gallai'r Pwyllgor ei wneud i symud y mater ymlaen a chytunodd i gau'r ddeiseb.

Ym mis Rhagfyr 2015, arweiniodd William Powell AC ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 'Gynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd: mae’n amser i ystyried y syniad hwn unwaith eto '. Mewn ymateb i'r ddadl, dywedodd y Gweinidog dros Adnoddau Naturiol ar y pryd:

Mae hefyd yn demtasiwn i ddweud am gynlluniau dychwelyd blaendal sy’n gweithio mewn gwledydd eraill, y byddai’n gweithio yma yng Nghymru, ond mae’n rhaid dod o hyd i ateb sy’n gweddu orau i’n hanghenion busnes, ein defnyddwyr a’n cymunedau, a bydd angen i ni weithio gyda’n gilydd i ddeall y materion hyn. Bydd angen i ni weithio gyda’n gilydd i ddeall manteision ac anfanteision yr ymyriadau arfaethedig, a sicrhau nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn arwain at newid yn y patrymau ailgylchu ac ailddefnyddio, yn hytrach nag ychwanegu atynt [...] [nid] wyf yn gwrthwynebu’r cynllun mewn egwyddor.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.